Siasbar Tudur

Siasbar Tudur
Siasbar; ffenestr yng Nghastell Caerdydd.
Ganwydc. 1431 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1495 Edit this on Wikidata
Castell Thornbury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Raglaw yr Iwerddon Edit this on Wikidata
TadOwain Tudur Edit this on Wikidata
MamCatrin o Valois Edit this on Wikidata
PriodCatherine Woodville, duges Buckingham Edit this on Wikidata
PlantHelen Tudor Edit this on Wikidata
LlinachTuduriaid Penmynydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Uchelwr Cymreig oedd Siasbar Tudur (Tachwedd 143121 Rhagfyr 1495); roedd yn Iarll Penfro a Dug Bedford, yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr ac yn ewythr i Harri Tudur (Harri VII, brenin Lloegr). Gyda'i frawd hŷn Edmwnd Tudur (tua 14301456), tad Harri Tudur, yr oedd Siasbar yn un o bum plentyn Owain Tudur ac yn ddisgynnydd uniongyrchol i Ednyfed Fychan (m. 1246), distain (canghellor) pwerus Llywelyn Fawr. Caterin o Valois oedd ei fam: merch brenin Siarl VI o Ffrainc a gweddw Harri V, brenin Lloegr. I bob pwrpas Siasbar oedd yn rheoli de-orllewin Cymru o'i gadarnle yng Nghastell Penfro. Bu ganddo ran allweddol yn Rhyfeloedd y Rhosynnau fel prif gynrychiolydd y Lancastriaid yng Nghymru ac yn ymgyrchoedd ei nai, a wnaed yn ward iddo, i ennill coron Lloegr.

Arfau Siasbar: Iarll Penfro a Dug Bedford

Erbyn 1460 roedd Siasbar mewn sefyllfa mor gryf nid yn unig yn y de-orllewin ond mewn rhannau eraill o'r wlad trwy'r swyddi niferus yr oedd wedi ennill i'w hun fel ei fod bron yn rheoli'r wlad.

Ar ôl i'r Iorciaid drechu'r Lancastriaid ym Mrwydr Croes Mortimer (1461), bu Siasbar yn alltud, yn yr Alban a Ffrainc, ond yn dilyn Brwydr Tewkesbury ym Mai 1471 dihangodd gyda Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Buont yn Llydaw rhwng 1471 a 1484 cyn i'r ddau ddychwelyd i Benfro gyda milwyr arfog a chychwyn ar eu gorymdaith drwy Gymru a arweiniodd i Frwydr Maes Bosworth.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy